Back to All Events

Jana Romanova - Adopted Welsh - Dyddiad Rhagolwg

  • 11 High Street Cardiff CF10 1AW (map)

Mae ‘Adopted Welsh’, project Jana Romanova pan oedd yn artist preswyl gyda Ffotogallery yng ngwanwyn 2015, yn ystyried cwestiynau’n ymwneud â hunaniaeth genedlaethol ac Ewropeaidd. Teithiodd yr artist o Rwsia o amgylch Cymru yn gofyn i bobl sut byddai ei dyfodol yn edrych petai’n symud i Gymru, a’r hyn y byddai angen iddi ei wneud i fod yn fwy Cymreig ac integreiddio mewn ardaloedd, cymunedau a diwylliannau gwahanol.